AbleFitness
Ar ôl dau ddegawd fel hyfforddwr ffitrwydd proffesiynol a hyfforddwr personol, yn creu a dysgu dosbarthiadau i awdurdodau lleol, o aerobics i hyfforddiant cylchol, ac wedi rheoli stiwdio a chydgysylltu dosbarthiadau wedi’u lleoli yn y stiwdio mewn clybiau ffitrwydd preifat, rwyf wedi cymryd y cam i sefydlu Stiwdio Iechyd a Ffitrwydd preifat fy hun, ablefitness™. Fe ymddiswyddais o fy ngyrfa llawn amser fel Asesydd ac Arholwr Ffitrwydd NVQ, er mwyn canolbwyntio ar y cam nesaf pwysig yn fy ngyrfa.
Mae fy nghymwysterau yn cynnwys Lefel 3 Uwch Hyfforddwr Ffitrwydd. Rwyf yn aelod o Gofrestr Ymarferwyr Corff Proffesiynol, ar Lefel 3, ac mae gennyf y tystysgrifau Iechyd, Diogelwch a Chymorth Cyntaf priodol. Sicrhaf fy mod yn dilyn yr holl ddatblygiadau diweddar mewn technegau ac offer, ac fe fynychaf weithdai a seminarau yn rheolaidd er mwyn diweddaru fy sgiliau.
Er fy mod wedi bod mewn cyflogaeth llawn amser ers gadael ysgol, mae’r penderfyniad i fynd ar fy liwt fy hun yn peri braw i mi, ond eto’n gyffrous. Caiff y rhyddid i ddysgu ac asesu yn y dulliau gorau posibl, gan ddefnyddio’r agweddau a thechnegau diweddaraf un, ei rwystro yn aml gan y pwysau o weithio i gyflogwr. Mae rhedeg fy musnes fy hun yn rhoi’r cyfle i mi ddefnyddio’r holl wybodaeth rwyf wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd yn dysgu ac asesu eraill.
Yn ablefitness™ fe gynigir rhaglenni ffitrwydd arbenigol un i un wedi’u teilwra yn arbennig i chi, er mwyn cyrraedd eich bwriadon ac anghenion personol, gan gynnwys trefnau ymarfer corff, cyngor ar faeth ac arweiniad. Bydd pob cwsmer yn derbyn monitro cyson er mwyn mesur cynnydd, gan ail werthuso ac addasu’r rhaglen yn ôl y gofyn. Ceir ymgynghoriadau parhaol ynglŷn â’ch hoff bethau a chas bethau, lefel o foddhad, ac eich ymateb o’ch sesiynau hyfforddi.
Darperir cyngor ynglŷn â’r ffyrdd gorau i golli, neu fagu pwysau, sut i gyweirio’r corff a gwella perfformiad cardiofasgwlaidd, i amrywiaeth o gleientiaid gan gynnwys atgyfeiriadau gan feddyg teulu, merched beichiog a mamau newydd, gweithwyr proffesiynol prysur, a’r rhai sy’n gyffredinol eisiau arweiniad gonest ynglŷn â newid eu ffordd o fyw.
Cynhelir sesiynau mewn stiwdio breifat fechan, sydd gyda’r offer ffitrwydd diweddaraf. Ceir awyrgylch distaw a chroesawgar, ac mae ablefitness™ yn mabwysiadu agwedd hyblyg tuag at sesiynau hyfforddi gyda phob cwsmer, i ateb eu hymrwymiadau gweithio.


